
Mae Peredur Owen Griffiths wedi rhoi her i weithredu i aelodau a chefnogwyr y Blaid wrth agor Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru.
Dywedodd Aelod o’r Senedd dros Dde Cymru Ddwyrain ac ymgeisydd arweiniol etholaeth Casnewydd Islwyn fod Cymru, ar drothwy etholiadau’r Senedd ym mis Mai, ar groesffordd gyda dewis rhwng dyfodol cadarnhaol ac ysbrydoledig neu un wedi’i rwygo gan raniadau a chasineb.
Wrth siarad yn yr ICC yng Nghasnewydd, tynnodd hefyd ysbrydoliaeth o hanes y ddinas drwy gofio gweithredoedd arwrol y Siartwyr, tra hefyd yn edrych tua’r dyfodol gyda’r ffaith fod y ddinas yn cynnal Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf am y tro cyntaf yn hanes Casnewydd.
Ar ôl canmol Plaid Cymru ar lawr gwlad am chwarae rhan enfawr yn llwyddiannau diweddar y blaid, dywedodd Peredur:
“Mae hon yn ddinas wedi’i siapio gan wydnwch, adnewyddiad a balchder - ac mae hynny’n ei gwneud yn gartref perffaith i gynhadledd Plaid Cymru ar drothwy, o bosibl, yr etholiad pwysicaf yn ein hanes.
“Ond gadewch inni gofio: mae’r neuadd hon wedi clywed llawer o leisiau. Ddim mor bell yn ôl, ymgasglodd poblyddwyr asgell dde yma i bregethu rhaniadau ac ofn, i ddweud wrth ein cymunedau mai i’r lleisiau cryfaf, y pocedi dyfnaf, a’r manteiswyr mwyaf sinigaidd y mae’r dyfodol yn perthyn.
“Er eu holl siarad, dim ond gweddillion ailgylchiedig, ailgynhesedig, ail-becynedig o’r un hen Blaid Dorïaidd ydynt.
“Rydyn ni’n eu gweld am beth ydyn nhw - ac rydyn ni’n eu hateb.
“Rydyn ni’n eu hateb gyda gobaith. Rydyn ni’n eu hateb gyda undod. Rydyn ni’n eu hateb gyda mudiad sydd wedi’i wreiddio mewn tegwch.
“Oherwydd mae Casnewydd wastad wedi gwybod ar ba ochr o hanes y mae’n sefyll.
“Yma yn 1839 y gorymdeithiodd y Siartwyr — dynion a menywod o’r Cymoedd a’r arfordir yn mynnu democratiaeth, urddas, ac yn bwysicaf oll, lais.
“Cawsant eu cyfarch gan fwledi. Cawsant eu cyfarch gan gasineb. Cawsant eu cyfyfarch gan sefydliad oedd yn ofni newid.
“Ac mae’r sefydliad yn dal i ofni newid heddiw.
“Ond fe orymdeithion nhw ta beth - ac oherwydd iddyn nhw orymdeithio, rydyn ni’n pleidleisio heddiw.
“Dysgais wers yn gynnar yn fy mywyd fod gwrando ar bobl yn debyg o fod y peth pwysicaf y gallwch ei wneud.
“Ond nid yw gwrando heb wir glywed yn mynd â chi i unman.
“Daw’r sgil o glywed y tebygrwydd, y pethau sy’n ein huno, y pethau mae pawb eu heisiau - gobaith, cyfle, tegwch, a pharch.
“Ond wedyn mae’n rhaid gweithredu - ac ar y 7fed o Fai eleni rhaid i ni gyd weithredu.”
Ychwanegodd:
“Ar draws ein gwlad gwelwn wleidyddiaeth sy’n beio mewnfudwyr yn hytrach na methiant gwleidyddol, sy’n beio cymunedau yn hytrach nag anghydraddoldeb, sy’n cynnig dicter lle mae pobl angen atebion.
“Ond nid yw Cymru erioed wedi symud ymlaen drwy droi ar ein gilydd.
“Rydyn ni’n symud ymlaen pan rydyn ni’n buddsoddi yn ein gilydd. Pan rydyn ni’n cysylltu ein trefi gyda thrafnidiaeth briodol. Pan rydyn ni’n ariannu ein cynghorau’n deg. Pan rydyn ni’n cryfhau ein GIG ac yn tyfu economi sy’n gweithio i bawb.
“Dyna’r Gymru mae Plaid Cymru’n ei hadeiladu.
“Cymru hyderus yn ei chymunedau. Hyderus yn ei huchelgais. Hyderus yn ei dyfodol.
“Ac rwy’n credu bod y gynhadledd hon yn nodi trobwynt.
“Ar draws Casnewydd, ar draws Islwyn, ar draws y Cymoedd hyn ac ar draws Cymru, mae pobl yn gwrando.
“Mae pobl yn barod. Barod am wleidyddiaeth sy’n eu parchu. Barod am blaid sy’n eu hadlewyrchu. Barod am lywodraeth sy’n gweithio drostyn nhw.
“Felly gadewch i’r cyfarfod hwn fod yn fwy na dim ond jyst areithiau.
“Gadewch iddo fod yn arwydd - fod Cymru’n barod am newid, fod pobol flaengar ar draws ein cenedl yn dod ynghyd, ac y bydd y dyfodol yn cael ei lunio nid gan y rhai sy’n gweiddi uchaf, ond gan y rhai sy’n credu fwyaf.
“Gyfeillion, gadewch inni anrhydeddu’r Siartwyr nid yn unig gyda geiriau - ond gyda phleidleisiau. Gadewch inni ateb rhaniad nid yn unig gyda dadl - ond gyda gweithredu. Gadewch inni adael yma nid yn unig wedi’n hysbrydoli - ond wedi’n symbylu.
“Oherwydd y ffordd o’n blaen ni yw’r un i ni ei hadeiladu. Y dyfodol yw’r un i ni ei hennill. A gyda’n gilydd - yn unedig, yn obeithiol, yn benderfynol –
“Byddwn yn gwneud Cymru’r wlad rydyn ni’n gwybod y gall hi fod.”