
Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru wedi cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb mewn ysgol uwchradd yn Nhorfaen.
Bu'r Aelod Senedd dros Ddwyrain De Cymru hefyd yn gwrando ar gyflwyniadau gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Cwmbrân ar ystod o bynciau sy'n bwysig iddynt.
Roedd y pynciau hyn yn cynnwys trafnidiaeth ysgol am ddim, plismona, yr amgylchedd, digartrefedd, amddiffyn artistiaid rhag y defnydd cynyddol o AI ac ehangu prydau ysgol am ddim i ysgolion uwchradd.
Cafodd Peredur gyflwyniad gan ddisgyblion Blwyddyn 9 yn gyntaf a oedd yn cyffwrdd â hanes Bae Caerdydd ond hefyd yn ymdrin â'r Senedd, ei phwerau a'i ehangu sydd ar fin digwydd.
Cafodd pennaeth yr ysgol, Matthew Sims, sgwrs gyda Peredur hefyd am addysg a heriau arweinyddiaeth ysgol.
Wedi hynny, dywedodd Peredur: “Fe wnes i fwynhau’n fawr fy ymweliad ag Ysgol Uwchradd Cwmbrân, lle cefais groeso cynnes. Roedd y disgyblion y gwnes i eu cyfarfod yn wybodus ac yn barod iawn i ofyn cwestiynau treiddgar.
“Roedd y cyflwyniadau gan y tri disgybl Blwyddyn 9 yn rhagorol, ac yn yr un modd yr oedd y materion a godwyd gan ddisgyblion Blwyddyn 8.
“Roedd hi’n wych gweld bod llawer o’r materion llosg sy’n bwysig i bobl ifanc yn cael sylw ar lwyfan polisi Plaid Cymru sy’n cael ei lunio cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai.”
Ychwanegodd: “Mae’r staff yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân yn haeddu clod am feithrin diddordeb mewn gwleidyddiaeth ymhlith y disgyblion.
“Mae dyfodol democratiaeth yn dibynnu ar bobl ifanc yn cymryd rhan ac yn ymgysylltu, yn enwedig os yw’r materion sy’n effeithio fwyaf ar bobl ifanc i gael eu hystyried gan wleidyddion a llywodraethau.
“Yr hyn oedd yn amlwg o’r ymweliad ag Ysgol Uwchradd Cwmbrân oedd bod disgyblion yn sylweddoli bod gwleidyddiaeth yn chwarae rhan bwysig mewn sawl agwedd ar eu bywydau.
“Roedd hynny’n galonogol iawn i’w weld.”