Newyddiadurwr Enwog yn dod i'r Senedd i Siarad am Gymhlethdod Llywodraeth y DU yn Hil-Laddiad Gaza

Newyddiadurwr Enwog yn dod i'r Senedd i Siarad am Gymhlethdod Llywodraeth y DU yn Hil-Laddiad Gaza

Peter_Oborne_Senedd_visit.jpg

Croesawyd newyddiadurwr ac awdur nodedig i'r Senedd gan Peredur Owen Griffiths i siarad am ei lyfr diweddaraf sy'n datgelu cyfranogiad y DU yn yr hil-laddiad yn Gaza.

Cyd-noddodd Peredur y digwyddiad gyda Peter Oborne sydd wedi gweithio i amryw o bapurau newydd gan gynnwys The Daily Telegraph a'r Daily Mail yn ogystal â darlledwyr fel y BBC a Channel 4.

Roedd Mr Oborne yng Nghymru i siarad am ei lyfr newydd 'Complicit' sy'n nodi'n fforensig gefnogaeth a chyfranogiad uniongyrchol y DU yn ymosodiad Israel ar Gaza.

Er gwaethaf ei boblogrwydd a'i ganmoliaeth, dywedodd Mr Oborne nad yw'r llyfr wedi cael ei adolygu gan sefydliad cyfryngau prif ffrwd.

Trefnwyd y digwyddiad gan gangen Casnewydd o'r Palestine Solidarity Campaign.

Dywedodd Peredur: "Roedd yn fraint croesawu'r newyddiadurwr a'r awdur nodedig Peter Oborne i'r Senedd.

"Mae wedi creu enw da aruthrol fel awdur di-ofn nad yw ac na fydd yn siglo o'i genhadaeth i ddweud y gwir wrth bŵer.

"Mae ei lyfr diweddaraf, Complicit, yn adroddiad critigol o ran y DU yn yr hil-laddiad yn Gaza sydd wedi hawlio bywydau mwy na 70,000 o bobl, llawer ohonynt yn fenywod a phlant.   

"Mae adroddiad diflino Peter o'r digwyddiadau a arweiniodd at yr ymosodiad ar Gaza a'r ffordd y cafodd ei gefnogi gan Lywodraeth y DU ei adrodd, yn ddarlleniad hanfodol i unrhyw un sy'n dymuno cael gwell dealltwriaeth o ddigwyddiadau."

Ychwanegodd Peredur: "Rwyf am ddiolch i Zahid Noor o gangen Casnewydd o Ymgyrch Undod Palestina am drefnu'r digwyddiad hwn a oedd yn drawsbleidiol ac a fynychwyd gan Aelodau'r Senedd."