Peredur yn canmol gwaith y gwasanaeth tân ar ôl ymweliad

Peredur yn canmol gwaith y gwasanaeth tân ar ôl ymweliad

Maindee_fire_station_pic.jpg

Mae Aelod Plaid Cymru o'r Senedd wedi canmol "gwaith anhygoel" y gwasanaeth tân yn dilyn ymweliad â gorsaf.

Roedd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, yn siarad ar ôl treulio bore yng ngorsaf dân Maendy yng Nghasnewydd.

Yn ystod yr ymweliad dysgodd am yr ystod eang o senarios y gall gorsaf fel gorsaf Maindee gynorthwyo gyda nhw fel damweiniau traffordd ac achub afonydd yn ogystal â thanau tai a glaswellt.  

Dywedodd Peredur: "Roeddwn i'n ddiolchgar am y cyfle i alw i mewn i orsaf dân Maendy a dysgu mwy am y gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

"Yn ystod fy ymweliad daeth yn amlwg yn gyflym mai dim ond rhan fach o waith diffoddwr tân yw rhoi tanau allan, yn enwedig mewn gorsaf dân amlbwrpas fel Maendy sydd â tendr achub ac sy'n gallu cynorthwyo mewn pob math o argyfwng.

"Mae'r gwaith atal tân maen nhw'n ei wneud o amgylch cartrefi pobl agored i niwed yn hanfodol ac mae eu gwaith allgymorth mewn ysgolion hefyd yn hanfodol i gadw plant i ffwrdd o niwed.

"Fe wnes i fwynhau cwrdd â'r bois ar y stesion a dysgu ganddyn nhw am yr heriau maen nhw'n eu hwynebu."

Ychwanegodd: "Rwyf am ddiolch i bawb am y croeso cynnes ar y diwrnod ac am roi eu hamser mor hael i siarad â mi am fod yn ddiffoddwr tân."