
Mae Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru wedi codi’r mater o ddiogelwch cymunedol yn y Senedd yn sgil unwaith eto ymosodiad marwol gan gi yn ei ranbarth.
Roedd Peredur Owen Griffiths, sy’n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, yn siarad ar ôl marwolaeth bachgen bach naw mis oed yn Rogiet, Sir Fynwy dros y penwythnos.
Ym mis Tachwedd 2021, bu farw Jack Lis, bachgen deng mlwydd oed, ar ôl iddo gael ei ymosod arno gan gi o frîd XL Bully yn Penyrheol. Y flwyddyn ganlynol, cafodd ymddeolwraig o’r enw Shirley Patrick, hefyd o Benyrheol, ei lladd gan gi croes XL Bully a Cane Corso.
Yn ystod cwestiwn amserol yn y Senedd, dywedodd Peredur mai digwyddiad “hynod o drist” oedd hwn ac anfonodd ei gydymdeimlad â theulu’r baban.
Gan gyfeirio at yr Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, dywedodd Peredur: “Mae’r ymchwiliad… yn parhau, ac nid ydym eto wedi dysgu pa frîd o gi oedd yn rhan o’r ymosodiad, ac ni fyddai’n briodol i chi wneud sylw ar yr ymchwiliad hwnnw.
“Er hynny, gwyddom fod derbyniadau i ysbytai o ganlyniad i frathiadau gan gŵn yn cynyddu yng Nghymru.
“Mewn gwirionedd, mae astudiaeth gan Brifysgol Lerpwl yn dangos bod derbyniadau o’r fath bron wedi dyblu rhwng 2014 a 2022, gyda’r nifer fwyaf o achosion yn digwydd yn y cartref.
“Yn fy rhanbarth i, bu sawl marwolaeth ac ymosodiadau difrifol gan gŵn ers fy ethol yn 2021.
“Dyma pam rwyf wedi galw o’r blaen ar y Llywodraeth i gyflwyno mesurau i hyrwyddo diogelwch cymunedol o ran bod yn berchennog cyfrifol ar gi.”
Ychwanegodd: “Alla i ofyn ichi roi gwybod i’r Senedd hon, yn ogystal â’r nifer o grwpiau lles anifeiliaid sy’n gwylio ac sydd hefyd yn pryderu am y cynnydd mewn ymosodiadau gan gŵn yng Nghymru, beth sydd wedi’i gyflawni hyd yn hyn a’ch hyder o ran a fydd y mesurau a gymerwyd yn arwain at fwy o ddiogelwch cymunedol?”
Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog: “Mae sawl peth y mae’n rhaid i ni barhau i adeiladu arnynt; ac mae hyn oll, rhaid i mi ddweud, yn dod ynghyd o fewn y fforymau perchnogaeth gyfrifol yr ydym yn eu trefnu, pan fydd pawb o gwmpas y bwrdd yn dweud, ‘Beth arall allwn ni ei wneud?’
“Oherwydd ni allwn fod yn hunanfodlon ar hyn.”