
Ymwelodd Aelod Plaid Cymru o'r Senedd â choleg i siarad â'r gymdeithas wleidyddiaeth a cynnal sesiwn holi ac ateb.
Galwodd Peredur Owen Griffiths i mewn i gampws Crosskeys Coleg Gwent i gwrdd â myfyrwyr dros gyfnod o awr.
Yn ystod y sesiwn, siaradodd AS Dwyrain De Cymru am ei fywyd cyn gwleidyddiaeth a'r rhesymau dros fynd am swydd etholedig.
Cymerodd ran hefyd mewn sesiwn holi ac ateb hir lle gofynnodd disgyblion coleg iddo am ystod o bynciau megis annibyniaeth, tlodi, Lwfans Cynhaliaeth Addysgol a chyngor ar sut i fynd i mewn i wleidyddiaeth.
Dyma'r ail dro i Peredur ymweld â'r Gymdeithas Wleidyddiaeth ar y campws.
Ar ôl hynny dywedodd: "Fe wnes i fwynhau cael fy holi gan aelodau'r Gymdeithas Wleidyddiaeth yn y coleg.
"Mae'r myfyrwyr yn amlwg yn wybodus ac yn ddeallus. Roedd hyn yn golygu bod y cwestiynau yn dreiddgar ac yn heriol, a roedd yn wych oherwydd ei fod yn dangos lefel o ymgysylltiad ymhlith pobl ifanc.
"Nhw yw dyfodol ein gwlad. Heb i bobl ifanc gael diddordeb mewn gwleidyddiaeth ac ymgyrchu ar faterion sy'n bwysig iddynt, nid yw dyfodol ein democratiaeth yn un iach.
"Felly, roeddwn i'n galonogol o weld safon y myfyrwyr yn y coleg ac edrychaf ymlaen at fy ymweliad nesaf â'r campws.
"Rwyf hefyd yn dymuno'r gorau i'r myfyrwyr yn eu hastudiaethau a'u gyrfaoedd yn y dyfodol."