Mae Peredur yn galw am fwy o graffu ar ddatblygwyr tai

Mae Peredur yn galw am fwy o graffu ar ddatblygwyr tai

Peredur_profile_pic_pro.PNG

Mae Aelod Plaid Cymru o'r Senedd wedi siarad ar ran trigolion y mae eu bywydau wedi cael eu difetha ers blynyddoedd gan ddatblygiad tai cyfagos.

Cododd Peredur Owen Griffiths y materion sy'n wynebu pobl sy'n byw yn Filas Cwmgelli ger y Coed Duon.

Maen nhw'n dweud eu bod wedi wynebu llifogydd rheolaidd a hyd yn oed toriadau nwy o ganlyniad i ddatblygiad Cwrt Sirhowy gerllaw gan Taylor Wimpey Homes.

Yn ystod Cwestiynau Busnes yn y Senedd, galwodd Peredur am fwy o graffu ar ddatblygwyr mawr.

Dywedodd: “Rwy’n codi hyn (y mater) yn sgil pryderon difrifol gan drigolion Fillas Cwmgelli ger Coed Duon, y mae eu bywydau wedi’u tarfu’n sylweddol gan ddatblygiad Cwrt Sirhywi yn agos atynt gan Taylor Wimpey Homes.

“Dros y chwe blynedd diwethaf, mae trigolion yn adrodd am lifogydd ailadroddus a dŵr o’r safle yn cael ei ollwng i’w heiddo o ganlyniad i’r gwaith, gyda rhai yn wynebu brwydr bron barhaus i gadw dŵr allan o’u cartrefi.

“Mae’r nant sy’n derbyn y dŵr a ailgyfeirir o’r safle bellach mewn perygl llawer mwy o lifogydd.

“Er y dyfarnwyd grant i uwchraddio’r cilgant, fe dorrodd y pwll arafu dros dro ddechrau’r mis hwn.

“Yn ogystal, fe darwyd pibell nwy prif gyflenwad, yn ôl pob sôn, ychydig o weithiau, gan ganiatáu i ddŵr fynd i mewn i’r system a thorri nwy i 45 o gartrefi — digwyddiad, yn ôl trigolion, na chafodd ei riportio’n iawn i’r awdurdodau.”

Ychwanegodd: “At y pryderon hyn, mae’r datblygiad wedi tyfu tua 40 o gartrefi, sy’n rhyw draean yn fwy nag a hysbysebwyd yn wreiddiol.

“Mae’n gwbl ddealladwy bod trigolion ar ben eu tennyn, felly mae angen inni wybod beth y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau na all datblygwyr sathru’n ddi-hid dros ein cymunedau a’u pryderon.”

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Busnes Jane Hutt y bydd yn sicrhau bod y mater ar yr agenda pan fydd y Gweinidog Tai Jayne Bryant yn cwrdd â datblygwyr tai mawr nesaf.